速報APP / 圖書與參考資源 / Tiwtor Mathemateg

Tiwtor Mathemateg

價格:免費

更新日期:2015-05-28

檔案大小:16.8 MB

目前版本:1.9.5

版本需求:需要 iOS 8.0 或以上版本。與 iPad 相容。

支援語言:英語

Tiwtor Mathemateg(圖1)-速報App

Mae’n bleser gan Daydream Education gyhoeddi lansiad ei Ap Tiwtor Mathemateg yn Gymraeg. Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Daydream wedi creu fersiwn Gymraeg o’i Ap Tiwtor Mathemateg, sydd bellach ar gael i’w lawrlwytho am ddim o App Store iTunes.

Mae’r Ap Tiwtor Mathemateg yn cynnwys chwe Ap unigol sy’n trafod pynciau allweddol y cwricwlwm gan gynnwys Lluosi, Rhannu, Adio, Tynnu, Ffracsiynau a Throsi Ffracsiynau, Degolion a Chanrannau. Mae’r apiau addysgol yn offerynnau hyblyg sy’n hawdd eu deall a hawdd eu defnyddio. Maent yn cynnwys rhyngwyneb deniadol ar gyfer y defnyddiwr, sy’n cyfuno â’r cynnwys sy’n seiliedig ar y cwricwlwm, i gynnig profiad dysgu atyniadol a fydd yn ysbrydoli disgyblion.

Nodweddion Allweddol

- Datblygwyd yn unol â’r fframwaith rhifedd

- Amcanion dysgu eglur

- Sgriniau cynnwys rhyngweithiol sydd wedi eu lleisio

- Canllawiau cam wrth gam

- Cwisiau ar wahanol lefelau a gyflwynir ar hap

- Gweithgareddau asesu

- Cofnod o gyrhaeddiad a chynnydd

- Padiau nodiadau integredig

Tiwtor Mathemateg(圖2)-速報App

SUT MAE’N GWEITHIO:

Pan fydd defnyddwyr yn mynd i’r ap am y tro cyntaf byddant yn gweld dewislen liwgar ryngweithiol sy’n eu galluogi i fynd yn gyflym i unrhyw un o’r pynciau, y gemau miri mathemateg neu’r cwisiau.

I lywio drwy’r ap, caiff defnyddwyr bwyso ar y saethau yn y sgriniau cynnwys neu fynd yn ôl i’r brif ddewislen a dewis sgrin.

Mae sgriniau gwybodaeth ar gael drwy sgrolio i lawr ar rai o’r sgriniau cynnwys. Mae gwybodaeth eglur a chryno ar y sgriniau cynnwys yn yr ap sy’n darparu ar gyfer dysgwyr clywedol, gweledol a chinesthetig.

MIRI MATHEMATEG:

Mae pob ap unigol yn cynnwys tri miri mathemateg a thri chwis asesu. Mae’r nodweddion hyn yn atgyfnerthu’r wybodaeth allweddol a gyflwynir yn yr ap ac yn galluogi defnyddwyr i wneud profion ar y wybodaeth sydd wedi ei chynnwys. Ym mhob gêm a chwis caiff y cwestiynau eu cyflwyno ar hap, gan roi profiad dysgu amrywiol a newydd bob tro.

Caiff yr holl nodweddion miri mathemateg eu cofnodi mewn adroddiad cynnydd syml ond effeithiol, sy’n helpu defnyddwyr i nodi lefel eu cyrhaeddiad a gweld sut maent yn datblygu.

Mae’r apiau yn darparu adnodd hyblyg ar lechen y gellir ei ddefnyddio gartref ac yn yr ystafell ddosbarth.

- - - - - - -

Daydream Education’s Maths Tutor App is now available in Welsh! Funded by the Welsh Government, Daydream has transformed its Maths Tutor App into the medium of Welsh which is now FREE to download.

The Maths Tutor App contains six individual Apps that cover key curriculum topics including Multiplication, Division, Addition, Subtraction, Fractions, Converting Fractions, Decimals and Percentages. The educational apps are intuitive, flexible learning tools which are easy to navigate and feature an attractive user interface that combines with the interactive curriculum-based content to provide an engaging and inspirational learning experience.

Tiwtor Mathemateg(圖3)-速報App

This app provides a complete solution, enabling users to learn, practice and assess important numeracy skills, all within one app.

KEY FEATURES:

- Developed in-line with the Numeracy Framework

- Clear learning objectives

- Interactive and narrated content screens

- Step-by-step guides

- Randomly-generated levelled quizzes

- Engaging assessment activities in the form of fun features

- Achievement and progress reporting

- Integrated notepads

FUN FEATURES:

Tiwtor Mathemateg(圖4)-速報App

Each individual app contains three fun features and three assessment quizzes. These features reinforce the key information presented throughout the app and enable users to test themselves on the information covered. In each game and quiz the questions are randomly generated, providing a varied and new learning experience every time.

All fun feature results are recorded in a simple yet effective progress report, which helps users identify their level of attainment and keep track of progress.

The apps provide a flexible tablet-based solution that can be used at home and in the classroom.

Tiwtor Mathemateg(圖5)-速報App

支援平台:iPad